3. Ac yr awr hon, preswylwyr Jerwsalem, a gwŷr Jwda, bernwch, atolwg, rhyngof fi a'm gwinllan.
4. Beth oedd i'w wneuthur ychwaneg i'm gwinllan, nag a wneuthum ynddi? paham, a mi yn disgwyl iddi ddwyn grawnwin, y dug hi rawn gwylltion?
5. Ac yr awr hon mi a hysbysaf i chwi yr hyn a wnaf i'm gwinllan: tynnaf ymaith ei chae, fel y porer hi; torraf ei magwyr, fel y byddo hi yn sathrfa;
6. A mi a'i gosodaf hi yn ddifrod: nid ysgythrir hi, ac ni chloddir hi; ond mieri a drain a gyfyd: ac i'r cymylau y gorchmynnaf na lawiont law arni.
7. Diau, gwinllan Arglwydd y lluoedd yw tŷ Israel, a gwŷr Jwda yw ei blanhigyn hyfryd ef: ac efe a ddisgwyliodd am farn, ac wele drais; am gyfiawnder, ac wele lef.
8. Gwae y rhai sydd yn cysylltu tŷ at dŷ, ac yn cydio maes wrth faes, hyd oni byddo eisiau lle, ac y trigoch chwi yn unig yng nghanol y tir.
9. Lle y clywais y dywedodd Arglwydd y lluoedd, Yn ddiau bydd tai lawer, mawrion a theg, yn anghyfannedd heb drigiannydd.
10. Canys deg cyfair o winllan a ddygant un bath, a lle homer a ddwg effa.
11. Gwae y rhai a gyfodant yn fore i ddilyn diod gadarn, a arhosant hyd yr hwyr, hyd oni enynno y gwin hwynt.
12. Ac yn eu gwleddoedd hwynt y mae y delyn, a'r nabl, y dympan, a'r bibell, a'r gwin: ond am waith yr Arglwydd nid edrychant, a gweithred ei ddwylo ef nid ystyriant.
13. Am hynny y caethgludwyd fy mhobl, am nad oes ganddynt wybodaeth: a'u gwŷr anrhydeddus sydd newynog, a'u lliaws a wywodd gan syched.
14. Herwydd hynny yr ymehangodd uffern, ac yr agorodd ei safn yn anferth; ac yno y disgyn eu gogoniant, a'u lliaws, a'u rhwysg, a'r hwn a lawenycha ynddi.
15. A'r gwrêng a grymir, a'r galluog a ddarostyngir, a llygaid y rhai uchel a iselir.
16. Ond Arglwydd y lluoedd a ddyrchefir mewn barn; a'r Duw sanctaidd a sancteiddir mewn cyfiawnder.