Eseia 5:21-30 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

21. Gwae y rhai sydd ddoethion yn eu golwg eu hun, a'r rhai deallgar yn eu golwg eu hun.

22. Gwae y rhai cryfion i yfed gwin, a'r dynion nerthol i gymysgu diod gadarn:

23. Y rhai a gyfiawnhânt yr anwir er gwobr, ac a gymerant ymaith gyfiawnder y rhai cyfiawn oddi ganddynt.

24. Am hynny, megis ag yr ysa y ffagl dân y sofl, ac y difa y fflam y mân us: felly y bydd eu gwreiddyn hwynt yn bydredd, a'u blodeuyn a gyfyd i fyny fel llwch; am iddynt ddiystyru cyfraith Arglwydd y lluoedd, a dirmygu gair Sanct yr Israel.

25. Am hynny yr enynnodd llid yr Arglwydd yn erbyn ei bobl, ac yr estynnodd efe ei law arnynt, ac a'u trawodd hwynt; a chrynodd y mynyddoedd, a bu eu celanedd hwynt yn rhwygedig yng nghanol yr heolydd. Er hyn oll ni ddychwelodd ei lid ef, ond eto y mae ei law ef wedi ei hestyn allan.

26. Ac efe a gyfyd faner i'r cenhedloedd o bell, ac a chwibana arnynt hwy o eithaf y ddaear: ac wele, ar frys yn fuan y deuant.

27. Ni bydd un blin na thramgwyddedig yn eu plith; ni huna yr un, ac ni chwsg: ac ni ddatodir gwregys ei lwynau, ac ni ddryllir carrai ei esgidiau.

28. Yr hwn sydd â'i saethau yn llymion, a'i holl fwâu yn anelog: carnau ei feirch ef a gyfrifir fel callestr, a'i olwynion fel corwynt.

29. Ei ruad fydd fel llew; efe a rua fel cenawon llew: efe a chwyrna hefyd, ac a ymeifl yn yr ysglyfaeth; efe a ddianc hefyd, ac a'i dwg ymaith yn ddiogel, ac ni bydd achubydd.

30. Ac efe a rua arnynt y dydd hwnnw, fel rhuad y môr: os edrychir ar y tir, wele dywyllwch, a chyfyngder, a'r goleuni a dywyllir yn ei nefoedd.

Eseia 5