9. Fel y dywedych wrth y carcharorion, Ewch allan; wrth y rhai sydd mewn tywyllwch, Ymddangoswch. Ar y ffyrdd y porant, ac yn yr holl uchelfannau y bydd eu porfa hwynt.
10. Ni newynant, ac ni sychedant; ac nis tery gwres na haul hwynt: oherwydd yr hwn a dosturia wrthynt a'u tywys, ac a'u harwain wrth y ffynhonnau dyfroedd.
11. A mi a wnaf fy holl fynydd yn ffordd, a'm priffyrdd a gyfodir.
12. Wele, y rhai hyn a ddeuant o bell: ac wele, y rhai acw o'r gogledd, ac o'r gorllewin; a'r rhai yma o dir Sinim.
13. Cenwch, nefoedd; a gorfoledda, ddaear; bloeddiwch ganu, y mynyddoedd: canys yr Arglwydd a gysurodd ei bobl, ac a drugarha wrth ei drueiniaid.
14. Eto dywedodd Seion, Yr Arglwydd a'm gwrthododd, a'm Harglwydd a'm hanghofiodd.
15. A anghofia gwraig ei phlentyn sugno, fel na thosturio wrth fab ei chroth? ie, hwy a allant anghofio, eto myfi nid anghofiaf di.
16. Wele, ar gledr fy nwylo y'th argreffais; dy furiau sydd ger fy mron bob amser.
17. Dy blant a frysiant; y rhai a'th ddinistriant, ac a'th ddistrywiant, a ânt allan ohonot.
18. Dyrcha dy lygaid oddi amgylch, ac edrych: y rhai hyn oll a ymgasglant, ac a ddeuant atat. Fel mai byw fi, medd yr Arglwydd, diau y gwisgi hwynt oll fel harddwisg, ac y rhwymi hwynt amdanat fel priodferch.