24. A ddygir y caffaeliad oddi ar y cadarn? neu a waredir y rhai a garcherir yn gyfiawn?
25. Ond fel hyn y dywed yr Arglwydd, Ie, carcharorion y cadarn a ddygir, ac anrhaith y creulon a ddianc: canys myfi a ymrysonaf รข'th ymrysonydd, a myfi a achubaf dy feibion.
26. Gwnaf hefyd i'th orthrymwyr fwyta eu cig eu hunain, ac ar eu gwaed eu hun y meddwant fel ar win melys; a gwybydd pob cnawd mai myfi yr Arglwydd yw dy Achubydd, a'th gadarn Waredydd di, Jacob.