Eseia 49:12-23 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

12. Wele, y rhai hyn a ddeuant o bell: ac wele, y rhai acw o'r gogledd, ac o'r gorllewin; a'r rhai yma o dir Sinim.

13. Cenwch, nefoedd; a gorfoledda, ddaear; bloeddiwch ganu, y mynyddoedd: canys yr Arglwydd a gysurodd ei bobl, ac a drugarha wrth ei drueiniaid.

14. Eto dywedodd Seion, Yr Arglwydd a'm gwrthododd, a'm Harglwydd a'm hanghofiodd.

15. A anghofia gwraig ei phlentyn sugno, fel na thosturio wrth fab ei chroth? ie, hwy a allant anghofio, eto myfi nid anghofiaf di.

16. Wele, ar gledr fy nwylo y'th argreffais; dy furiau sydd ger fy mron bob amser.

17. Dy blant a frysiant; y rhai a'th ddinistriant, ac a'th ddistrywiant, a ânt allan ohonot.

18. Dyrcha dy lygaid oddi amgylch, ac edrych: y rhai hyn oll a ymgasglant, ac a ddeuant atat. Fel mai byw fi, medd yr Arglwydd, diau y gwisgi hwynt oll fel harddwisg, ac y rhwymi hwynt amdanat fel priodferch.

19. Canys dy ddiffeithwch a'th anialwch, a'th dir dinistriol, yn ddiau fydd yn awr yn rhy gyfyng gan breswylwyr; a'r rhai a'th lyncant a ymbellhânt.

20. Plant dy ddiepiledd a ddywedant eto lle y clywych, Cyfyng yw y lle hwn i mi; dod le i mi, fel y preswyliwyf.

21. Yna y dywedi yn dy galon, Pwy a genhedlodd y rhai hyn i mi, a mi yn ddiepil, ac yn unig, yn gaeth, ac ar grwydr? a phwy a fagodd y rhai hyn? Wele, myfi a adawyd fy hunan; o ba le y daeth y rhai hyn?

22. Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, Wele, cyfodaf fy llaw at y cenhedloedd, a dyrchafaf fy maner at y bobloedd; a dygant dy feibion yn eu mynwes, a dygir dy ferched ar ysgwyddau.

23. Brenhinoedd hefyd fydd dy dadmaethod, a'u breninesau dy famaethod; crymant i ti â'u hwynebau tua'r llawr, a llyfant lwch dy draed; a chei wybod mai myfi yw yr Arglwydd: canys ni chywilyddir y rhai a ddisgwyliant wrthyf fi.

Eseia 49