Eseia 49:1-7 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Gwrandewch arnaf, ynysoedd; ac ystyriwch, bobl o bell; Yr Arglwydd a'm galwodd o'r groth; o ymysgaroedd fy mam y gwnaeth goffa am fy enw.

2. Gosododd hefyd fy ngenau fel cleddyf llym, yng nghysgod ei law y'm cuddiodd; a gwnaeth fi yn saeth loyw, cuddiodd fi yn ei gawell saethau;

3. Ac a ddywedodd wrthyf, Fy ngwas i ydwyt ti, Israel, yr hwn yr ymogoneddaf ynot.

4. Minnau a ddywedais, Yn ofer y llafuriais, yn ofer ac am ddim y treuliais fy nerth; er hynny y mae fy marn gyda'r Arglwydd, a'm gwaith gyda'm Duw.

5. Ac yn awr, medd yr Arglwydd yr hwn a'm lluniodd o'r groth yn was iddo, i ddychwelyd Jacob ato ef, Er nad ymgasglodd Israel, eto gogoneddus fyddaf fi yng ngolwg yr Arglwydd, a'm Duw fydd fy nerth.

6. Ac efe a ddywedodd, Gwael yw dy fod yn was i mi, i gyfodi llwythau Jacob, ac i adferu rhai cadwedig Israel: mi a'th roddaf hefyd yn oleuni i'r Cenhedloedd, fel y byddych yn iachawdwriaeth i mi hyd eithaf y ddaear.

7. Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Gwaredydd Israel, a'i Sanct, wrth y dirmygedig o enaid, wrth yr hwn sydd ffiaidd gan y genedl, wrth was llywodraethwyr; Brenhinoedd a welant, ac a gyfodant; tywysogion hefyd a ymgrymant, er mwyn yr Arglwydd, yr hwn sydd ffyddlon, Sanct Israel, ac efe a'th ddewisodd di.

Eseia 49