Eseia 48:19-22 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

19. A buasai dy had fel y tywod, ac epil dy gorff fel ei raean ef: ni thorasid, ac ni ddinistriasid ei enw oddi ger fy mron.

20. Ewch allan o Babilon, ffowch oddi wrth y Caldeaid, รข llef gorfoledd mynegwch ac adroddwch hyn, traethwch ef hyd eithafoedd y ddaear; dywedwch, Gwaredodd yr Arglwydd ei was Jacob.

21. Ac ni sychedasant pan arweiniodd hwynt yn yr anialwch: gwnaeth i ddwfr bistyllio iddynt o'r graig: holltodd y graig hefyd, a'r dwfr a ddylifodd.

22. Nid oes heddwch, medd yr Arglwydd, i'r rhai annuwiol.

Eseia 48