Eseia 47:5-15 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

5. Eistedd yn ddistaw, a dos i dywyllwch, ti ferch y Caldeaid: canys ni'th alwant mwy yn Arglwyddes y teyrnasoedd.

6. Digiais wrth fy mhobl, halogais fy etifeddiaeth, a rhoddais hwynt yn dy law di: ni chymeraist drugaredd arnynt; rhoddaist dy iau yn drom iawn ar yr henuriaid.

7. A dywedaist, Byth y byddaf arglwyddes: felly nid ystyriaist hyn, ac ni chofiaist ei diwedd hi.

8. Am hynny yn awr gwrando hyn, y foethus, yr hon a drigi yn ddiofal, yr hon a ddywedi yn dy galon, Myfi sydd, ac nid neb ond myfi: nid eisteddaf yn weddw, ac ni chaf wybod beth yw diepiledd.

9. Ond y ddau beth hyn a ddaw i ti yn ddisymwth yr un dydd, diepiledd a gweddwdod: yn gwbl y deuant arnat, am amlder dy hudoliaethau, a mawr nerth dy swynion.

10. Canys ymddiriedaist yn dy ddrygioni: dywedaist, Ni'm gwêl neb. Dy ddoethineb a'th wybodaeth a'th hurtiant; a dywedaist yn dy galon, Myfi sydd, ac nid neb arall ond myfi.

11. Am hynny y daw arnat ddrygfyd, yr hwn ni chei wybod ei gyfodiad; a syrth arnat ddinistr nis gelli ei ochelyd: ie, daw arnat ddistryw yn ddisymwth, heb wybod i ti.

12. Saf yn awr gyda'th swynion, a chydag amlder dy hudoliaethau, yn y rhai yr ymflinaist o'th ieuenctid; i edrych a elli wneuthur lles, i edrych a fyddi grymus.

13. Ymflinaist yn amlder dy gynghorion dy hun. Safed yn awr astronomyddion y nefoedd, y rhai a dremiant ar y sêr, y rhai a hysbysant am y misoedd, ac achubant di oddi wrth y pethau a ddeuant arnat.

14. Wele, hwy a fyddant fel sofl; y tân a'u llysg hwynt; ni waredant eu heinioes o feddiant y fflam: ni bydd marworyn i ymdwymo, na thân i eistedd ar ei gyfer.

15. Felly y byddant hwy i ti gyda'r rhai yr ymflinaist, sef dy farsiandwyr o'th ieuenctid; crwydrasant bob un ar ei duedd; nid oes un yn dy achub di.

Eseia 47