Eseia 44:20-24 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

20. Ymborth ar ludw y mae; calon siomedig a'i gwyrdrôdd ef, fel na waredo ei enaid, ac na ddywedo, Onid oes celwydd yn fy neheulaw?

21. Meddwl hyn, Jacob ac Israel; canys fy ngwas ydwyt ti; lluniais di, gwas i mi ydwyt; Israel, ni'th anghofir gennyf.

22. Dileais dy gamweddau fel cwmwl, a'th bechodau fel niwl: dychwel ataf fi; canys myfi a'th waredais di.

23. Cenwch, nefoedd: canys yr Arglwydd a wnaeth hyn: bloeddiwch, gwaelodion y ddaear; bloeddiwch ganu, fynyddoedd, y coed a phob pren ynddo: canys gwaredodd yr Arglwydd Jacob, ac yn Israel yr ymogonedda efe.

24. Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd dy Waredydd, a'r hwn a'th luniodd o'r groth, Myfi yw yr Arglwydd sydd yn gwneuthur pob peth, yn estyn y nefoedd fy hunan, yn lledu y ddaear ohonof fy hun:

Eseia 44