Eseia 43:5-18 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

5. Nac ofna; canys yr ydwyf fi gyda thi: o'r dwyrain y dygaf dy had, ac o'r gorllewin y'th gasglaf.

6. Dywedaf wrth y gogledd, Dod; ac wrth y deau, Nac atal: dwg fy meibion o bell, a'm merched o eithaf y ddaear;

7. Sef pob un a elwir ar fy enw: canys i'm gogoniant y creais ef, y lluniais ef, ac y gwneuthum ef.

8. Dwg allan y bobl ddall sydd â llygaid iddynt, a'r byddariaid sydd â chlustiau iddynt.

9. Casgler yr holl genhedloedd ynghyd, a chynuller y bobloedd; pwy yn eu mysg a fynega hyn, ac a draetha i ni y pethau o'r blaen? dygant eu tystion, fel y cyfiawnhaer hwynt; neu wrandawant, a dywedant, Gwir yw.

10. Fy nhystion i ydych chwi, medd yr Arglwydd, a'm gwas yr hwn a ddewisais; fel yr adnabyddoch, ac y credoch fi, ac y dealloch mai myfi yw: o'm blaen nid oedd Duw wedi ei ffurfio, ac ni bydd ar fy ôl.

11. Myfi, myfi yw yr Arglwydd; ac nid oes geidwad ond myfi.

12. Myfi a fynegais, ac a achubais, ac a ddangosais, pryd nad oedd duw dieithr yn eich mysg: am hynny chwi ydych fy nhystion, medd yr Arglwydd, mai myfi sydd Dduw.

13. Ie, cyn bod dydd yr ydwyf fi; ac nid oes a wared o'm llaw: gwnaf, a phwy a'i lluddia?

14. Fel hyn y dywed yr Arglwydd, eich Gwaredydd chwi, Sanct Israel: Er eich mwyn chwi yr anfonais i Babilon, ac y tynnais i lawr eu holl benaduriaid, a'r Caldeaid, sydd â'u bloedd mewn llongau.

15. Myfi yr Arglwydd yw eich Sanct chwi, Creawdydd Israel, eich Brenin chwi.

16. Fel hyn y dywed yr Arglwydd, yr hwn a wna ffordd yn y môr, a llwybr yn y dyfroedd cryfion;

17. Yr hwn a ddwg allan y cerbyd a'r march, y llu a'r cryfder; cydorweddant, ni chodant: darfuant, fel llin y diffoddasant.

18. Na chofiwch y pethau o'r blaen, ac nac ystyriwch y pethau gynt.

Eseia 43