Eseia 43:3-9 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

3. Canys myfi yw yr Arglwydd dy Dduw, Sanct Israel, dy Waredydd: myfi a roddais yr Aifft yn iawn trosot, Ethiopia a Seba amdanat.

4. Er pan aethost yn werthfawr yn fy ngolwg, y'th ogoneddwyd, a mi a'th hoffais; am hynny y rhoddaf ddynion amdanat ti, a phobloedd dros dy einioes di.

5. Nac ofna; canys yr ydwyf fi gyda thi: o'r dwyrain y dygaf dy had, ac o'r gorllewin y'th gasglaf.

6. Dywedaf wrth y gogledd, Dod; ac wrth y deau, Nac atal: dwg fy meibion o bell, a'm merched o eithaf y ddaear;

7. Sef pob un a elwir ar fy enw: canys i'm gogoniant y creais ef, y lluniais ef, ac y gwneuthum ef.

8. Dwg allan y bobl ddall sydd â llygaid iddynt, a'r byddariaid sydd â chlustiau iddynt.

9. Casgler yr holl genhedloedd ynghyd, a chynuller y bobloedd; pwy yn eu mysg a fynega hyn, ac a draetha i ni y pethau o'r blaen? dygant eu tystion, fel y cyfiawnhaer hwynt; neu wrandawant, a dywedant, Gwir yw.

Eseia 43