Eseia 43:20-23 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

20. Bwystfil y maes, y dreigiau, a chywion yr estrys, a'm gogoneddant; am roddi ohonof ddwfr yn yr anialwch, a'r afonydd yn y diffeithwch, i roddi diod i'm pobl, fy newisedig.

21. Y bobl hyn a luniais i mi fy hun; fy moliant a fynegant.

22. Eithr ni elwaist arnaf, Jacob; ond blinaist arnaf, Israel.

23. Ni ddygaist i mi filod dy offrymau poeth, ac ni'm hanrhydeddaist â'th ebyrth: ni pherais i ti fy ngwasanaethu ag offrwm, ac ni'th flinais ag arogl‐darth.

Eseia 43