13. Ie, cyn bod dydd yr ydwyf fi; ac nid oes a wared o'm llaw: gwnaf, a phwy a'i lluddia?
14. Fel hyn y dywed yr Arglwydd, eich Gwaredydd chwi, Sanct Israel: Er eich mwyn chwi yr anfonais i Babilon, ac y tynnais i lawr eu holl benaduriaid, a'r Caldeaid, sydd â'u bloedd mewn llongau.
15. Myfi yr Arglwydd yw eich Sanct chwi, Creawdydd Israel, eich Brenin chwi.
16. Fel hyn y dywed yr Arglwydd, yr hwn a wna ffordd yn y môr, a llwybr yn y dyfroedd cryfion;
17. Yr hwn a ddwg allan y cerbyd a'r march, y llu a'r cryfder; cydorweddant, ni chodant: darfuant, fel llin y diffoddasant.
18. Na chofiwch y pethau o'r blaen, ac nac ystyriwch y pethau gynt.