Eseia 43:1-2 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Ond yr awr hon fel hyn y dywed yr Arglwydd dy Greawdwr di, Jacob, a'th Luniwr di, Israel, Nac ofna; canys gwaredais di: gelwais di erbyn dy enw; eiddof fi ydwyt.

2. Pan elych trwy y dyfroedd, myfi a fyddaf gyda thi; a thrwy yr afonydd, fel na lifant drosot: pan rodiech trwy'r tân, ni'th losgir; ac ni ennyn y fflam arnat.

Eseia 43