Eseia 42:6-13 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

6. Myfi yr Arglwydd a'th elwais mewn cyfiawnder, ac ymaflaf yn dy law, cadwaf di hefyd, a rhoddaf di yn gyfamod pobl, ac yn oleuni Cenhedloedd;

7. I agoryd llygaid y deillion, i ddwyn allan y carcharor o'r carchar, a'r rhai a eisteddant mewn tywyllwch o'r carchardy.

8. Myfi yw yr Arglwydd; dyma fy enw: a'm gogoniant ni roddaf i arall, na'm mawl i ddelwau cerfiedig.

9. Wele, y pethau o'r blaen a ddaethant i ben, a mynegi yr ydwyf fi bethau newydd; traethaf hwy i chwi cyn eu tarddu allan.

10. Cenwch i'r Arglwydd gân newydd, a'i fawl ef o eithaf y ddaear; y rhai a ddisgynnwch i'r môr, ac sydd ynddo; yr ynysoedd a'u trigolion.

11. Y diffeithwch a'i ddinasoedd, dyrchafant eu llef, y maestrefi a breswylia Cedar; caned preswylwyr y graig, bloeddiant o ben y mynyddoedd.

12. Rhoddant ogoniant i'r Arglwydd, a mynegant ei fawl yn yr ynysoedd.

13. Yr Arglwydd a â allan fel cawr, fel rhyfelwr y cyffry eiddigedd; efe a waedda, ie, efe a rua; ac a fydd drech na'i elynion.

Eseia 42