Eseia 42:13-19 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

13. Yr Arglwydd a â allan fel cawr, fel rhyfelwr y cyffry eiddigedd; efe a waedda, ie, efe a rua; ac a fydd drech na'i elynion.

14. Tewais er ys talm, distewais, ymateliais; llefaf fel gwraig yn esgor, difwynaf, a difethaf ar unwaith.

15. Mi a wnaf y mynyddoedd a'r bryniau yn ddiffeithwch, a'u holl wellt a wywaf; ac a wnaf yr afonydd yn ynysoedd, a'r llynnoedd a sychaf.

16. Arweiniaf y deilliaid ar hyd ffordd nid adnabuant; a gwnaf iddynt gerdded ar hyd llwybrau nid adnabuant; gwnaf dywyllwch yn oleuni o'u blaen hwynt, a'r pethau ceimion yn union. Dyma y pethau a wnaf iddynt, ac nis gadawaf hwynt.

17. Troir yn eu hôl, a llwyr waradwyddir y rhai a ymddiriedant mewn delwau cerfiedig, y rhai a ddywedant wrth y delwau tawdd, Chwi yw ein duwiau ni.

18. O fyddariaid, gwrandewch; a'r deillion, edrychwch i weled.

19. Pwy sydd ddall ond fy ngwas i? neu fyddar fel fy nghennad a anfonais? pwy mor ddall â'r perffaith, a dall fel gwas yr Arglwydd?

Eseia 42