11. Y diffeithwch a'i ddinasoedd, dyrchafant eu llef, y maestrefi a breswylia Cedar; caned preswylwyr y graig, bloeddiant o ben y mynyddoedd.
12. Rhoddant ogoniant i'r Arglwydd, a mynegant ei fawl yn yr ynysoedd.
13. Yr Arglwydd a รข allan fel cawr, fel rhyfelwr y cyffry eiddigedd; efe a waedda, ie, efe a rua; ac a fydd drech na'i elynion.
14. Tewais er ys talm, distewais, ymateliais; llefaf fel gwraig yn esgor, difwynaf, a difethaf ar unwaith.
15. Mi a wnaf y mynyddoedd a'r bryniau yn ddiffeithwch, a'u holl wellt a wywaf; ac a wnaf yr afonydd yn ynysoedd, a'r llynnoedd a sychaf.