1. Wele fy ngwas, yr hwn yr ydwyf yn ei gynnal; fy etholedig, i'r hwn y mae fy enaid yn fodlon: rhoddais fy ysbryd arno; efe a ddwg allan farn i'r cenhedloedd.
2. Ni waedda, ac ni ddyrchafa, ac ni phair glywed ei lef yn yr heol.
3. Ni ddryllia gorsen ysig, ac ni ddiffydd lin yn mygu: efe a ddwg allan farn at wirionedd.
4. Ni phalla efe, ac ni ddigalonna, hyd oni osodo farn ar y ddaear; yr ynysoedd hefyd a ddisgwyliant am ei gyfraith ef.
5. Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, creawdydd y nefoedd a'i hestynnydd; lledydd y ddaear a'i chnwd; rhoddydd anadl i'r bobl arni, ac ysbryd i'r rhai a rodiant ynddi:
6. Myfi yr Arglwydd a'th elwais mewn cyfiawnder, ac ymaflaf yn dy law, cadwaf di hefyd, a rhoddaf di yn gyfamod pobl, ac yn oleuni Cenhedloedd;
7. I agoryd llygaid y deillion, i ddwyn allan y carcharor o'r carchar, a'r rhai a eisteddant mewn tywyllwch o'r carchardy.
8. Myfi yw yr Arglwydd; dyma fy enw: a'm gogoniant ni roddaf i arall, na'm mawl i ddelwau cerfiedig.
9. Wele, y pethau o'r blaen a ddaethant i ben, a mynegi yr ydwyf fi bethau newydd; traethaf hwy i chwi cyn eu tarddu allan.
10. Cenwch i'r Arglwydd gân newydd, a'i fawl ef o eithaf y ddaear; y rhai a ddisgynnwch i'r môr, ac sydd ynddo; yr ynysoedd a'u trigolion.