Eseia 41:4-15 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

4. Pwy a weithredodd ac a wnaeth hyn, gan alw y cenedlaethau o'r dechreuad? Myfi yr Arglwydd y cyntaf, myfi hefyd fydd gyda'r diwethaf.

5. Yr ynysoedd a welsant, ac a ofnasant; eithafoedd y ddaear a ddychrynasant, a nesasant, ac a ddaethant.

6. Pob un a gynorthwyodd ei gymydog, ac a ddywedodd wrth ei frawd, Ymgryfha.

7. Felly y saer a gysurodd yr eurych, a'r morthwyliwr yr hwn oedd yn taro ar yr eingion, gan ddywedyd, Y mae yn barod i'w asio; ac efe a'i sicrhaodd â hoelion, fel nad ysgogir.

8. Eithr ti, Israel, fy ngwas ydwyt ti, Jacob yr hwn a etholais, had Abraham fy anwylyd.

9. Ti, yr hwn a gymerais o eithafoedd y ddaear, ac y'th elwais oddi wrth ei phendefigion, ac y dywedais wrthyt, Fy ngwas wyt ti; dewisais di, ac ni'th wrthodais.

10. Nac ofna; canys yr ydwyf fi gyda thi: na lwfrha; canys myfi yw dy Dduw: cadarnhaf di, cynorthwyaf di hefyd, a chynhaliaf di â deheulaw fy nghyfiawnder.

11. Wele, cywilyddir a gwaradwyddir y rhai oll a lidiasent wrthyt: dy wrthwynebwyr a fyddant megis diddim, ac a ddifethir.

12. Ti a'u ceisi, ac nis cei hwynt, sef y dynion a ymgynenasant â thi: y gwŷr a ryfelant â thi fyddant megis diddim, a megis peth heb ddim.

13. Canys myfi yr Arglwydd dy Dduw a ymaflaf yn dy ddeheulaw, a ddywed wrthyt, Nac ofna, myfi a'th gynorthwyaf.

14. Nac ofna, di bryf Jacob, gwŷr Israel; myfi a'th gynorthwyaf, medd yr Arglwydd, a'th Waredydd, Sanct Israel.

15. Wele, gosodaf di yn fen ddyrnu newydd ddanheddog; y mynyddoedd a ddyrni ac a feli, gosodi hefyd y bryniau fel mwlwg.

Eseia 41