Eseia 41:1-9 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Distewch, ynysoedd, ger fy mron; adnewydded y cenhedloedd eu nerth: deuant yn nes, yna llefarant; cyd-nesawn i farn.

2. Pwy a gyfododd y cyfiawn o'r dwyrain, a'i galwodd at ei droed, a roddodd y cenhedloedd o'i flaen ef, ac a wnaeth iddo lywodraethu ar frenhinoedd? efe a'u rhoddodd hwynt fel llwch i'w gleddyf, ac fel sofl gwasgaredig i'w fwa ef.

3. Y mae efe yn eu herlid hwynt, ac yn myned yn ddiogel; ar hyd llwybr ni cherddasai efe â'i draed.

4. Pwy a weithredodd ac a wnaeth hyn, gan alw y cenedlaethau o'r dechreuad? Myfi yr Arglwydd y cyntaf, myfi hefyd fydd gyda'r diwethaf.

5. Yr ynysoedd a welsant, ac a ofnasant; eithafoedd y ddaear a ddychrynasant, a nesasant, ac a ddaethant.

6. Pob un a gynorthwyodd ei gymydog, ac a ddywedodd wrth ei frawd, Ymgryfha.

7. Felly y saer a gysurodd yr eurych, a'r morthwyliwr yr hwn oedd yn taro ar yr eingion, gan ddywedyd, Y mae yn barod i'w asio; ac efe a'i sicrhaodd â hoelion, fel nad ysgogir.

8. Eithr ti, Israel, fy ngwas ydwyt ti, Jacob yr hwn a etholais, had Abraham fy anwylyd.

9. Ti, yr hwn a gymerais o eithafoedd y ddaear, ac y'th elwais oddi wrth ei phendefigion, ac y dywedais wrthyt, Fy ngwas wyt ti; dewisais di, ac ni'th wrthodais.

Eseia 41