Eseia 40:7-10 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

7. Gwywa y gwelltyn, syrth y blodeuyn; canys ysbryd yr Arglwydd a chwythodd arno: gwellt yn ddiau yw y bobl.

8. Gwywa y gwelltyn, syrth y blodeuyn; ond gair ein Duw ni a saif byth.

9. Dring rhagot, yr efengyles Seion, i fynydd uchel; dyrchafa dy lef trwy nerth, O efengyles Jerwsalem: dyrchafa, nac ofna; dywed wrth ddinasoedd Jwda, Wele eich Duw chwi.

10. Wele, yr Arglwydd Dduw a ddaw yn erbyn y cadarn, a'i fraich a lywodraetha drosto: wele ei wobr gydag ef, a'i waith o'i flaen.

Eseia 40