Eseia 40:13-18 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

13. Pwy a gyfarwyddodd Ysbryd yr Arglwydd, ac yn ŵr o'i gyngor a'i cyfarwyddodd ef?

14. A phwy yr ymgynghorodd efe, ie, pwy a'i cyfarwyddodd, ac a'i dysgodd yn llwybr barn, ac a ddysgodd iddo wybodaeth, ac a ddangosodd iddo ffordd dealltwriaeth?

15. Wele, y cenhedloedd a gyfrifwyd fel defnyn o gelwrn, ac fel mân lwch y cloriannau; wele, fel brycheuyn y cymer efe yr ynysoedd i fyny.

16. Ac nid digon Libanus i gynnau tân; nid digon ei fwystfilod chwaith yn boethoffrwm.

17. Yr holl genhedloedd ydynt megis diddim ger ei fron ef; yn llai na dim, ac na gwagedd, y cyfrifwyd hwynt ganddo.

18. I bwy gan hynny y cyffelybwch Dduw? a pha ddelw a osodwch iddo?

Eseia 40