Eseia 40:12-16 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

12. Pwy a fesurodd y dyfroedd yn ei ddwrn, ac a fesurodd y nefoedd â'i rychwant, ac a gymhwysodd bridd y ddaear mewn mesur, ac a bwysodd y mynyddoedd mewn pwysau, a'r bryniau mewn cloriannau?

13. Pwy a gyfarwyddodd Ysbryd yr Arglwydd, ac yn ŵr o'i gyngor a'i cyfarwyddodd ef?

14. A phwy yr ymgynghorodd efe, ie, pwy a'i cyfarwyddodd, ac a'i dysgodd yn llwybr barn, ac a ddysgodd iddo wybodaeth, ac a ddangosodd iddo ffordd dealltwriaeth?

15. Wele, y cenhedloedd a gyfrifwyd fel defnyn o gelwrn, ac fel mân lwch y cloriannau; wele, fel brycheuyn y cymer efe yr ynysoedd i fyny.

16. Ac nid digon Libanus i gynnau tân; nid digon ei fwystfilod chwaith yn boethoffrwm.

Eseia 40