Eseia 39:4-8 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

4. Yntau a ddywedodd, Beth a welsant hwy yn dy dŷ di? A dywedodd Heseceia, Yr hyn oll oedd yn fy nhŷ i a welsant: nid oes dim yn fy nhrysorau a'r nas dangosais iddynt.

5. Yna Eseia a ddywedodd wrth Heseceia, Gwrando air Arglwydd y lluoedd.

6. Wele y dyddiau yn dyfod, pan ddygir i Babilon yr hyn oll sydd yn dy dŷ di, a'r hyn a gynilodd dy dadau di hyd y dydd hwn: ni adewir dim, medd yr Arglwydd.

7. Cymerant hefyd o'th feibion di, y rhai a ddaw ohonot, sef y rhai a genhedli, fel y byddont ystafellyddion yn llys brenin Babilon.

8. Yna y dywedodd Heseceia wrth Eseia, Da yw gair yr Arglwydd, yr hwn a leferaist. Dywedodd hefyd, Canys bydd heddwch a gwirionedd yn fy nyddiau i.

Eseia 39