1. Yn yr amser hwnnw Merodach‐Baladan, mab Baladan, brenin Babilon, a anfonodd lythyrau ac anrheg at Heseceia: canys efe a glywsai ei fod ef yn glaf, a'i fyned yn iach.
2. A Heseceia a lawenychodd o'u herwydd hwynt, ac a ddangosodd iddynt dŷ ei drysorau, yr arian, a'r aur, a'r llysieuau, a'r olew gwerthfawr, a holl dŷ ei arfau, a'r hyn oll a gafwyd yn ei drysorau ef: nid oedd dim yn ei dŷ ef, nac yn ei holl gyfoeth ef, a'r nas dangosodd Heseceia iddynt.
3. Yna y daeth Eseia y proffwyd at y brenin Heseceia, ac a ddywedodd wrtho, Beth a ddywedodd y gwŷr hyn? ac o ba le y daethant atat? A dywedodd Heseceia, O wlad bell y daethant ataf fi, sef o Babilon.
4. Yntau a ddywedodd, Beth a welsant hwy yn dy dŷ di? A dywedodd Heseceia, Yr hyn oll oedd yn fy nhŷ i a welsant: nid oes dim yn fy nhrysorau a'r nas dangosais iddynt.