4. Yna y bu gair yr Arglwydd wrth Eseia, gan ddywedyd,
5. Dos, a dywed wrth Heseceia, Fel hyn y dywed Arglwydd Dduw Dafydd dy dad, Clywais dy weddi di, gwelais dy ddagrau; wele, mi a chwanegaf at dy ddyddiau di bymtheng mlynedd.
6. Ac o law brenin Asyria y'th waredaf di a'r ddinas: a mi a ddiffynnaf y ddinas hon.
7. A hyn fydd i ti yn arwydd oddi wrth yr Arglwydd, y gwna yr Arglwydd y gair hwn a lefarodd;
8. Wele fi yn dychwelyd cysgod y graddau, yr hwn a ddisgynnodd yn neial Ahas gyda'r haul, ddeg o raddau yn ei ôl. Felly yr haul a ddychwelodd ddeg o raddau, ar hyd y graddau y disgynasai ar hyd‐ddynt.
9. Ysgrifen Heseceia brenin Jwda, pan glafychasai, a byw ohono o'i glefyd:
10. Myfi a ddywedais yn nhoriad fy nyddiau, Af i byrth y bedd; difuddiwyd fi o weddill fy mlynyddoedd.
11. Dywedais, Ni chaf weled yr Arglwydd Iôr yn nhir y rhai byw: ni welaf ddyn mwyach ymysg trigolion y byd.
12. Fy nhrigfa a aeth, ac a symudwyd oddi wrthyf fel lluest bugail: torrais ymaith fy hoedl megis gwehydd; â nychdod y'm tyr ymaith: o ddydd hyd nos y gwnei ben amdanaf.