Eseia 38:13-22 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

13. Cyfrifais hyd y bore, mai megis llew y dryllia efe fy holl esgyrn: o ddydd hyd nos y gwnei ddiben arnaf.

14. Megis garan neu wennol, felly trydar a wneuthum; griddfenais megis colomen; fy llygaid a ddyrchafwyd i fyny: O Arglwydd, gorthrymwyd fi; esmwythâ arnaf.

15. Beth a ddywedaf? canys dywedodd wrthyf, ac efe a'i gwna: mi a gerddaf yn araf fy holl flynyddoedd yn chwerwedd fy enaid.

16. Arglwydd, trwy y pethau hyn yr ydys yn byw, ac yn yr holl bethau hyn y mae bywyd fy ysbryd i; felly yr iachei, ac y bywhei fi.

17. Wele yn lle heddwch i mi chwerwder chwerw: ond o gariad ar fy enaid y gwaredaist ef o bwll llygredigaeth: canys ti a deflaist fy holl bechodau o'r tu ôl i'th gefn.

18. Canys y bedd ni'th fawl di, angau ni'th glodfora: y rhai sydd yn disgyn i'r pwll ni obeithiant am dy wirionedd.

19. Y byw, y byw, efe a'th fawl di, fel yr wyf fi heddiw: y tad a hysbysa i'r plant dy wirionedd.

20. Yr Arglwydd sydd i'm cadw: am hynny y canwn fy nghaniadau holl ddyddiau ein heinioes yn nhŷ yr Arglwydd.

21. Canys Eseia a ddywedasai, Cymerant swp o ffigys, a rhwymant yn blastr ar y cornwyd, ac efe a fydd byw.

22. A dywedasai Heseceia, Pa arwydd fydd y caf fyned i fyny i dŷ yr Arglwydd?

Eseia 38