Eseia 38:1-8 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Yn y dyddiau hynny y clafychodd Heseceia hyd farw. Ac Eseia y proffwyd mab Amos a ddaeth ato ef, ac a ddywedodd wrtho, Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Trefna dy dŷ; canys marw fyddi, ac ni byddi byw.

2. Yna Heseceia a droes ei wyneb at y pared, ac a weddïodd at yr Arglwydd:

3. A dywedodd, Atolwg, Arglwydd, cofia yr awr hon i mi rodio ger dy fron di mewn gwirionedd ac â chalon berffaith, a gwneuthur ohonof yr hyn oedd dda yn dy olwg. A Heseceia a wylodd ag wylofain mawr.

4. Yna y bu gair yr Arglwydd wrth Eseia, gan ddywedyd,

5. Dos, a dywed wrth Heseceia, Fel hyn y dywed Arglwydd Dduw Dafydd dy dad, Clywais dy weddi di, gwelais dy ddagrau; wele, mi a chwanegaf at dy ddyddiau di bymtheng mlynedd.

6. Ac o law brenin Asyria y'th waredaf di a'r ddinas: a mi a ddiffynnaf y ddinas hon.

7. A hyn fydd i ti yn arwydd oddi wrth yr Arglwydd, y gwna yr Arglwydd y gair hwn a lefarodd;

8. Wele fi yn dychwelyd cysgod y graddau, yr hwn a ddisgynnodd yn neial Ahas gyda'r haul, ddeg o raddau yn ei ôl. Felly yr haul a ddychwelodd ddeg o raddau, ar hyd y graddau y disgynasai ar hyd‐ddynt.

Eseia 38