Eseia 37:29-33 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

29. Am i ti ymgynddeiriogi i'm herbyn, ac i'th ddadwrdd ddyfod i fyny i'm clustiau; am hynny y rhoddaf fy mach yn dy ffroen di, a'm ffrwyn yn dy weflau, ac a'th ddychwelaf di ar hyd yr un ffordd ag y daethost.

30. A hyn fydd yn arwydd i ti, Heseceia: Y flwyddyn hon y bwytei a dyfo ohono ei hun; ac yn yr ail flwyddyn yr atwf; ac yn y drydedd flwyddyn heuwch a medwch, plennwch winllannoedd hefyd, a bwytewch eu ffrwyth hwynt.

31. A'r gweddill o dŷ Jwda, yr hwn a adewir, a wreiddia eilwaith i waered, ac a ddwg ffrwyth i fyny.

32. Canys gweddill a â allan o Jerwsalem, a'r rhai dihangol o fynydd Seion: sêl Arglwydd y lluoedd a wna hyn.

33. Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd am frenin Asyria, Ni ddaw efe i'r ddinas hon, ac nid ergydia efe saeth yno; hefyd ni ddaw o'i blaen â tharian, ac ni fwrw glawdd i'w herbyn.

Eseia 37