Eseia 37:11-27 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

11. Wele, ti a glywaist yr hyn a wnaeth brenhinoedd Asyria i'r holl wledydd, gan eu difrodi hwynt; ac a waredir di?

12. A waredodd duwiau y cenhedloedd hwynt, y rhai a ddarfu i'm tadau eu dinistrio, sef Gosan, a Haran, a Reseff, a meibion Eden, y rhai oedd o fewn Telassar?

13. Mae brenin Hamath, a brenin Arffad, a brenin dinas Seffarfaim, Hena, ac Ifa?

14. A chymerth Heseceia y llythyr o law y cenhadau, ac a'i darllenodd; a Heseceia a aeth i fyny i dŷ yr Arglwydd, ac a'i lledodd gerbron yr Arglwydd.

15. A Heseceia a weddïodd at yr Arglwydd, gan ddywedyd,

16. Arglwydd y lluoedd, Duw Israel, yr hwn wyt yn trigo rhwng y ceriwbiaid, ti ydwyt Dduw, ie, tydi yn unig, i holl deyrnasoedd y ddaear: ti a wnaethost y nefoedd a'r ddaear.

17. Gogwydda, Arglwydd, dy glust, a gwrando; agor dy lygaid, Arglwydd, ac edrych: gwrando hefyd holl eiriau Senacherib, yr hwn a anfonodd i ddifenwi y Duw byw.

18. Gwir yw, O Arglwydd, i frenhinoedd Asyria ddifa yr holl genhedloedd a'u gwledydd,

19. A rhoddi eu duwiau hwy yn tân; canys nid oeddynt hwy dduwiau, ond gwaith dwylo dyn, o goed a maen: am hynny y dinistriasant hwynt.

20. Yr awr hon gan hynny, O Arglwydd ein Duw, achub ni o'i law ef; fel y gwypo holl deyrnasoedd y ddaear mai ti yw yr Arglwydd, tydi yn unig.

21. Yna Eseia mab Amos a anfonodd at Heseceia, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed Arglwydd Dduw Israel, Oherwydd i ti weddïo ataf fi yn erbyn Senacherib brenin Asyria:

22. Dyma y gair a lefarodd yr Arglwydd yn ei erbyn ef; Y forwyn merch Seion a'th ddirmygodd, ac a'th watwarodd; merch Jerwsalem a ysgydwodd ben ar dy ôl.

23. Pwy a ddifenwaist ac a geblaist? ac yn erbyn pwy y dyrchefaist dy lef, ac y cyfodaist yn uchel dy lygaid? yn erbyn Sanct Israel.

24. Trwy law dy weision y ceblaist yr Arglwydd, ac y dywedaist, A lliaws fy ngherbydau y deuthum i fyny i uchelder y mynyddoedd, i ystlysau Libanus; a mi a dorraf uchelder ei gedrwydd, a'i ddewis ffynidwydd; af hefyd i'w gwr uchaf, ac i goed ei ddoldir.

25. Myfi a gloddiais, ac a yfais ddwfr; â gwadnau fy nhraed hefyd y sychais holl afonydd y gwarchaeëdig.

26. Oni chlywaist wneuthur ohonof hyn er ys talm, a'i lunio er y dyddiau gynt? yn awr y dygais hynny i ben, fel y byddit i ddistrywio dinasoedd caerog yn garneddau dinistriol.

27. Am hynny eu trigolion yn gwtoglaw a ddychrynwyd ac a gywilyddiwyd: oeddynt megis gwellt y maes, fel gwyrddlysiau, a glaswellt ar bennau tai, neu ŷd wedi deifio cyn aeddfedu.

Eseia 37