Eseia 35:1-8 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Yr anialwch a'r anghyfanheddle a lawenychant o'u plegid; y diffeithwch hefyd a orfoledda, ac a flodeua fel rhosyn.

2. Gan flodeuo y blodeua, ac y llawenycha hefyd â llawenydd ac â chân: gogoniant Libanus a roddir iddo, godidowgrwydd Carmel a Saron: hwy a welant ogoniant yr Arglwydd, a godidowgrwydd ein Duw ni.

3. Cadarnhewch y dwylo llesg, a chryfhewch y gliniau gweiniaid.

4. Dywedwch wrth y rhai ofnus o galon, Ymgryfhewch, nac ofnwch: wele, eich Duw chwi a ddaw â dial, ie, Duw â thaledigaeth; efe a ddaw, ac a'ch achub chwi.

5. Yna yr agorir llygaid y deillion, a chlustiau y byddarion a agorir.

6. Yna y llama y cloff fel hydd, ac y cân tafod y mudan: canys dyfroedd a dyr allan yn yr anialwch, ac afonydd yn y diffeithwch.

7. Y crastir hefyd fydd yn llyn, a'r tir sychedig yn ffynhonnau dyfroedd; yn nhrigfa y dreigiau, a'u gorweddfa, y bydd cyfle corsennau a brwyn.

8. Yna y bydd priffordd, a ffordd; a Ffordd sanctaidd y gelwir hi: yr halogedig nid â ar hyd‐ddi; canys hi a fydd i'r rhai hynny: a rodio y ffordd, pe byddent ynfydion, ni chyfeiliornant.

Eseia 35