Eseia 35:1-5 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Yr anialwch a'r anghyfanheddle a lawenychant o'u plegid; y diffeithwch hefyd a orfoledda, ac a flodeua fel rhosyn.

2. Gan flodeuo y blodeua, ac y llawenycha hefyd â llawenydd ac â chân: gogoniant Libanus a roddir iddo, godidowgrwydd Carmel a Saron: hwy a welant ogoniant yr Arglwydd, a godidowgrwydd ein Duw ni.

3. Cadarnhewch y dwylo llesg, a chryfhewch y gliniau gweiniaid.

4. Dywedwch wrth y rhai ofnus o galon, Ymgryfhewch, nac ofnwch: wele, eich Duw chwi a ddaw â dial, ie, Duw â thaledigaeth; efe a ddaw, ac a'ch achub chwi.

5. Yna yr agorir llygaid y deillion, a chlustiau y byddarion a agorir.

Eseia 35