Eseia 33:1-2 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Gwae di anrheithiwr, a thi heb dy anrheithio; a thi anffyddlon, er na wnaed yn anffyddlon â thi: pan ddarffo i ti anrheithio, y'th anrheithir; a phan ddarffo i ti fod yn anffyddlon, byddant anffyddlon i ti.

2. Arglwydd, trugarha wrthym; wrthyt y disgwyliasom: bydd fraich iddynt bob bore, a'n hiachawdwriaeth ninnau yn amser cystudd.

Eseia 33