Eseia 32:10-20 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

10. Dyddiau gyda blwyddyn y trallodir chwi, wragedd difraw: canys darfu y cynhaeaf gwin, ni ddaw cynnull.

11. Ofnwch, rai difraw; dychrynwch, rai diofal: ymddiosgwch, ac ymnoethwch, a gwregyswch sachliain am eich llwynau.

12. Galarant am y tethau, am y meysydd hyfryd, am y winwydden ffrwythlon.

13. Cyfyd drain a mieri ar dir fy mhobl, ie, ar bob tŷ llawenydd yn y ddinas hyfryd.

14. Canys y palasau a wrthodir, lluosowgrwydd y ddinas a adewir, yr amddiffynfeydd a'r tyrau fyddant yn ogofeydd hyd byth, yn hyfrydwch asynnod gwylltion, yn borfa diadellau;

15. Hyd oni thywallter arnom yr ysbryd o'r uchelder, a bod yr anialwch yn ddoldir, a chyfrif y doldir yn goetir.

16. Yna y trig barn yn yr anialwch, a chyfiawnder a erys yn y doldir.

17. A gwaith cyfiawnder fydd heddwch; ie, gweithred cyfiawnder fydd llonyddwch a diogelwch, hyd byth.

18. A'm pobl a drig mewn preswylfa heddychlon, ac mewn anheddau diogel, ac mewn gorffwysfaoedd llonydd.

19. Pan ddisgynno cenllysg ar y coed, ac y gostyngir y ddinas mewn lle isel.

20. Gwyn eich byd y rhai a heuwch gerllaw pob dyfroedd, y rhai a yrrwch draed yr ych a'r asyn yno.

Eseia 32