Eseia 32:1-5 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Wele, brenin a deyrnasa mewn cyfiawnder, a thywysogion a lywodraethant mewn barn.

2. A gŵr fydd megis yn ymguddfa rhag y gwynt, ac yn lloches rhag y dymestl; megis afonydd dyfroedd mewn sychdir, megis cysgod craig fawr mewn tir sychedig.

3. Yna llygaid y rhai a welant ni chaeir, a chlustiau y rhai a glywant a wrandawant.

4. Calon y rhai ehud hefyd a ddeall wybodaeth, a thafod y rhai bloesg a brysura lefaru yn eglur.

5. Ni elwir mwy y coegddyn yn fonheddig, ac ni ddywedir am y cybydd, Hael yw.

Eseia 32