Eseia 32:1-10 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Wele, brenin a deyrnasa mewn cyfiawnder, a thywysogion a lywodraethant mewn barn.

2. A gŵr fydd megis yn ymguddfa rhag y gwynt, ac yn lloches rhag y dymestl; megis afonydd dyfroedd mewn sychdir, megis cysgod craig fawr mewn tir sychedig.

3. Yna llygaid y rhai a welant ni chaeir, a chlustiau y rhai a glywant a wrandawant.

4. Calon y rhai ehud hefyd a ddeall wybodaeth, a thafod y rhai bloesg a brysura lefaru yn eglur.

5. Ni elwir mwy y coegddyn yn fonheddig, ac ni ddywedir am y cybydd, Hael yw.

6. Canys coegwr a draetha goegni, a'i galon a wna anwiredd, i ragrithio, ac i draethu amryfusedd yn erbyn yr Arglwydd, i ddiddymu enaid y newynog; ac efe a wna i ddiod y sychedig ballu.

7. Arfau y cybydd sydd ddrygionus: efe a ddychymyg ddichellion i ddifwyno y trueiniaid trwy ymadroddion gau, pan draetho yr anghenus yr uniawn.

8. Ond yr hael a ddychymyg haelioni; ac ar haelioni y saif efe.

9. Cyfodwch, wragedd di‐waith; clywch fy llais: gwrandewch fy ymadrodd, ferched diofal.

10. Dyddiau gyda blwyddyn y trallodir chwi, wragedd difraw: canys darfu y cynhaeaf gwin, ni ddaw cynnull.

Eseia 32