Eseia 31:4 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

Canys fel hyn y dywedodd yr Arglwydd wrthyf, Megis y rhua hen lew a'r llew ieuanc ar ei ysglyfaeth, yr hwn, er galw lliaws o fugeiliaid yn ei erbyn, ni ddychryn rhag eu llef hwynt, ac nid ymostwng er eu twrf hwynt: felly y disgyn Arglwydd y lluoedd i ryfela dros fynydd Seion, a thros ei fryn ef.

Eseia 31

Eseia 31:1-9