Eseia 30:1-12 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Gwae y meibion cyndyn, medd yr Arglwydd, a gymerant gyngor, ond nid gennyf fi; ac a orchuddiant â gorchudd, ac nid o'm hysbryd i, i chwanegu pechod ar bechod:

2. Y rhai sydd yn myned i ddisgyn i'r Aifft, heb ymofyn â mi, i ymnerthu yn nerth Pharo, ac i ymddiried yng nghysgod yr Aifft.

3. Am hynny y bydd nerth Pharo yn gywilydd i chwi, a'r ymddiried yng nghysgod yr Aifft yn waradwydd.

4. Canys bu ei dywysogion yn Soan, a'i genhadau a ddaethant i Hanes.

5. Hwynt oll a gywilyddiwyd oherwydd y bobl ni fuddia iddynt, ni byddant yn gynhorthwy nac yn llesâd, eithr yn warth ac yn waradwydd.

6. Baich anifeiliaid y deau. I dir cystudd ac ing, lle y daw ohonynt yr hen lew a'r llew ieuanc, y wiber a'r sarff danllyd hedegog, y dygant eu golud ar gefnau asynnod, a'u trysorau ar gefnau camelod, at bobl ni wna les.

7. Canys yn ddi‐les ac yn ofer y cynorthwya yr Eifftiaid: am hynny y llefais arni, Eu nerth hwynt yw aros yn llonydd.

8. Dos yn awr, ysgrifenna hyn mewn llech ger eu bron hwynt, ac ysgrifenna mewn llyfr, fel y byddo hyd y dydd diwethaf yn oes oesoedd;

9. Mai pobl wrthryfelgar yw y rhai hyn, plant celwyddog, plant ni fynnant wrando cyfraith yr Arglwydd:

10. Y rhai a ddywedant wrth y gweledyddion, Na welwch; ac wrth y proffwydi, Na phroffwydwch i ni bethau uniawn; traethwch i ni weniaith, proffwydwch i ni siomedigaeth:

11. Ciliwch o'r ffordd, ciliwch o'r llwybr; perwch i Sanct Israel beidio â ni.

12. Am hynny fel hyn y dywed Sanct Israel, Am wrthod ohonoch y gair hwn, ac ymddiried ohonoch mewn twyll a cham, a phwyso ar hynny:

Eseia 30