Eseia 29:22-24 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

22. Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd, yr hwn a waredodd Abraham, am dŷ Jacob, Weithian ni chywilyddir Jacob, ac ni lasa ei wyneb ef.

23. Eithr pan welo efe ei feibion, gwaith fy nwylo, o'i fewn, hwy a sancteiddiant fy enw, ie, sancteiddiant Sanct Jacob, ac a ofnant Dduw Israel.

24. A'r rhai cyfeiliornus o ysbryd a ddysgant ddeall, a'r grwgnachwyr a ddysgant addysg.

Eseia 29