Eseia 28:26-29 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

26. Canys ei Dduw a'i hyfforddia ef mewn synnwyr, ac a'i dysg ef.

27. Canys nid ag og y dyrnir ffacbys, ac ni throir olwyn men ar gwmin; eithr dyrnir ffacbys â ffon, a chwmin â gwialen.

28. Yd bara a felir; ond gan ddyrnu ni ddyrn y dyrnwr ef yn wastadol, ac ni ysiga ef ag olwyn ei fen, ac nis mâl ef â'i wŷr meirch.

29. Hyn hefyd a ddaw oddi wrth Arglwydd y lluoedd, yr hwn sydd ryfedd yn ei gyngor, ac ardderchog yn ei waith.

Eseia 28