21. Canys yr Arglwydd a gyfyd megis ym mynydd Perasim, efe a ddigia megis yng nglyn Gibeon, i wneuthur ei waith, ei ddieithr waith; ac i wneuthur ei weithred, ei ddieithr weithred.
22. Ac yn awr na watwerwch, rhag cadarnhau eich rhwymau; canys clywais fod darfodedigaeth derfynol oddi wrth Arglwydd Dduw y lluoedd ar yr holl dir.
23. Clywch, a gwrandewch fy llais; ystyriwch, a gwrandewch fy lleferydd.
24. Ydyw yr arddwr yn aredig ar hyd y dydd i hau? ydyw efe yn agoryd ac yn llyfnu ei dir?
25. Onid wedi iddo lyfnhau ei wyneb, y taena efe y ffacbys, ac y gwasgar y cwmin, ac y bwrw y gwenith ardderchog, a'r haidd nodedig, a'r rhyg yn ei gyfle?
26. Canys ei Dduw a'i hyfforddia ef mewn synnwyr, ac a'i dysg ef.
27. Canys nid ag og y dyrnir ffacbys, ac ni throir olwyn men ar gwmin; eithr dyrnir ffacbys â ffon, a chwmin â gwialen.
28. Yd bara a felir; ond gan ddyrnu ni ddyrn y dyrnwr ef yn wastadol, ac ni ysiga ef ag olwyn ei fen, ac nis mâl ef â'i wŷr meirch.
29. Hyn hefyd a ddaw oddi wrth Arglwydd y lluoedd, yr hwn sydd ryfedd yn ei gyngor, ac ardderchog yn ei waith.