2. Wele, un grymus a nerthol sydd gan yr Arglwydd, fel tymestl cenllysg, neu gorwynt dinistriol, fel llifeiriant dyfroedd mawrion yn llifo drosodd, yr hwn a fwrw i lawr â llaw.
3. Dan draed y sethrir coron balchder, meddwon Effraim.
4. Ac ardderchowgrwydd ei ogoniant, yr hwn sydd ar ben y dyffryn bras, fydd blodeuyn diflanedig, megis ffigysen gynnar cyn yr haf, yr hon pan welo yr hwn a edrycho arni, efe a'i llwnc hi, a hi eto yn ei law.
5. Yn y dydd hwnnw y bydd Arglwydd y lluoedd yn goron ardderchowgrwydd, ac yn goron gogoniant i weddill ei bobl;
6. Ac yn ysbryd barn i'r hwn a eisteddo ar farn, ac yn gadernid i'r rhai a ddychwelant y rhyfel i'r porth.
7. Ac er hynny hwy a gyfeiliornasant trwy win, ac a amryfusasant trwy ddiod gadarn: yr offeiriad a'r proffwyd a gyfeiliornasant trwy ddiod gadarn, difawyd hwy gan win, cyfeiliornasant trwy ddiod gadarn, amryfusasant mewn gweledigaeth, tramgwyddasant mewn barn.
8. Canys y byrddau oll sydd lawn o chwydfa a budreddi, heb le glân.
9. I bwy y dysg efe wybodaeth? ac i bwy y pair efe ddeall yr hyn a glywo? i'r rhai a ddiddyfnwyd oddi wrth laeth, y rhai a dynnwyd oddi wrth y bronnau.
10. Canys rhoddir gorchymyn ar orchymyn, gorchymyn ar orchymyn; llin ar lin, llin ar lin; ychydig yma, ac ychydig acw.
11. Canys â bloesgni gwefusau, ac â thafodiaith ddieithr, y llefara efe wrth y bobl hyn.
12. Y rhai y dywedodd efe wrthynt, Dyma orffwystra, gadewch i'r diffygiol orffwyso, a dyma esmwythder; ond ni fynnent wrando.
13. Eithr gair yr Arglwydd oedd iddynt yn orchymyn ar orchymyn, yn orchymyn ar orchymyn; yn llin ar lin, yn llin ar lin; ychydig yma, ac ychydig acw; fel yr elent ac y syrthient yn ôl, ac y dryllier, ac y magler, ac y dalier hwynt.
14. Am hynny gwrandewch air yr Arglwydd, ddynion gwatwarus, llywodraethwyr y bobl hyn, y rhai sydd yn Jerwsalem.
15. Am i chwi ddywedyd, Gwnaethom amod ag angau, ac ag uffern y gwnaethom gynghrair; pan ddêl ffrewyll lifeiriol, ni ddaw atom ni: canys gosodasom ein gobaith ar gelwydd, a than ffalster y llechasom.
16. Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, Wele fi yn sylfaenu maen yn Seion, maen profedig, conglfaen gwerthfawr, sylfaen safadwy; ni frysia yr hwn a gredo.
17. A mi a osodaf farn wrth linyn, a chyfiawnder wrth bwys; y cenllysg a ysguba noddfa celwydd, a'r dyfroedd a foddant y lloches.