Eseia 28:17-24 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

17. A mi a osodaf farn wrth linyn, a chyfiawnder wrth bwys; y cenllysg a ysguba noddfa celwydd, a'r dyfroedd a foddant y lloches.

18. A diddymir eich amod ag angau, a'ch cynghrair ag uffern ni saif; pan ddĂȘl y ffrewyll lifeiriol, byddwch yn sathrfa iddi.

19. O'r amser y delo, y cymer chwi: canys daw bob bore, ddydd a nos; a blinder yn unig fydd i beri deall yr hyn a glywir.

20. Canys byrrach yw y gwely nag y galler ymestyn ynddo; a chul yw y cwrlid i ymdroi ynddo.

21. Canys yr Arglwydd a gyfyd megis ym mynydd Perasim, efe a ddigia megis yng nglyn Gibeon, i wneuthur ei waith, ei ddieithr waith; ac i wneuthur ei weithred, ei ddieithr weithred.

22. Ac yn awr na watwerwch, rhag cadarnhau eich rhwymau; canys clywais fod darfodedigaeth derfynol oddi wrth Arglwydd Dduw y lluoedd ar yr holl dir.

23. Clywch, a gwrandewch fy llais; ystyriwch, a gwrandewch fy lleferydd.

24. Ydyw yr arddwr yn aredig ar hyd y dydd i hau? ydyw efe yn agoryd ac yn llyfnu ei dir?

Eseia 28