15. Am i chwi ddywedyd, Gwnaethom amod ag angau, ac ag uffern y gwnaethom gynghrair; pan ddêl ffrewyll lifeiriol, ni ddaw atom ni: canys gosodasom ein gobaith ar gelwydd, a than ffalster y llechasom.
16. Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, Wele fi yn sylfaenu maen yn Seion, maen profedig, conglfaen gwerthfawr, sylfaen safadwy; ni frysia yr hwn a gredo.
17. A mi a osodaf farn wrth linyn, a chyfiawnder wrth bwys; y cenllysg a ysguba noddfa celwydd, a'r dyfroedd a foddant y lloches.
18. A diddymir eich amod ag angau, a'ch cynghrair ag uffern ni saif; pan ddêl y ffrewyll lifeiriol, byddwch yn sathrfa iddi.
19. O'r amser y delo, y cymer chwi: canys daw bob bore, ddydd a nos; a blinder yn unig fydd i beri deall yr hyn a glywir.
20. Canys byrrach yw y gwely nag y galler ymestyn ynddo; a chul yw y cwrlid i ymdroi ynddo.
21. Canys yr Arglwydd a gyfyd megis ym mynydd Perasim, efe a ddigia megis yng nglyn Gibeon, i wneuthur ei waith, ei ddieithr waith; ac i wneuthur ei weithred, ei ddieithr weithred.
22. Ac yn awr na watwerwch, rhag cadarnhau eich rhwymau; canys clywais fod darfodedigaeth derfynol oddi wrth Arglwydd Dduw y lluoedd ar yr holl dir.
23. Clywch, a gwrandewch fy llais; ystyriwch, a gwrandewch fy lleferydd.
24. Ydyw yr arddwr yn aredig ar hyd y dydd i hau? ydyw efe yn agoryd ac yn llyfnu ei dir?
25. Onid wedi iddo lyfnhau ei wyneb, y taena efe y ffacbys, ac y gwasgar y cwmin, ac y bwrw y gwenith ardderchog, a'r haidd nodedig, a'r rhyg yn ei gyfle?
26. Canys ei Dduw a'i hyfforddia ef mewn synnwyr, ac a'i dysg ef.
27. Canys nid ag og y dyrnir ffacbys, ac ni throir olwyn men ar gwmin; eithr dyrnir ffacbys â ffon, a chwmin â gwialen.