Eseia 28:1-3 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Gwae goron balchder, meddwon Effraim; yr hwn y mae ardderchowgrwydd ei ogoniant yn flodeuyn diflanedig, yr hwn sydd ar ben y dyffrynnoedd breision, y rhai a orchfygwyd gan win.

2. Wele, un grymus a nerthol sydd gan yr Arglwydd, fel tymestl cenllysg, neu gorwynt dinistriol, fel llifeiriant dyfroedd mawrion yn llifo drosodd, yr hwn a fwrw i lawr รข llaw.

3. Dan draed y sethrir coron balchder, meddwon Effraim.

Eseia 28