Eseia 27:6-13 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

6. Efe a wna i hiliogaeth Jacob wreiddio; Israel a flodeua, ac a flaendardda; a hwy a lanwant wyneb y byd â chnwd.

7. A drawodd efe ef fel y trawodd y rhai a'i trawsai ef? a laddwyd ef fel lladdfa ei laddedigion ef?

8. Wrth fesur, pan êl allan, yr ymddadlau ag ef: y mae yn atal ei wynt garw ar ddydd dwyreinwynt.

9. Am hynny trwy hyn y glanheir anwiredd Jacob; a dyna'r holl ffrwyth, tynnu ymaith ei bechod: pan wnelo efe holl gerrig yr allor fel cerrig calch briwedig, ni saif y llwyni na'r delwau.

10. Eto y ddinas gadarn fydd unig, a'r annedd wedi ei adael, a'i wrthod megis yn anialwch: yno y pawr y llo, ac y gorwedd, ac y difa ei blagur hi.

11. Pan wywo ei brig hi, hwy a dorrir: gwragedd a ddaw, ac a'i llosgant hi; canys nid pobl ddeallgar ydynt: am hynny yr hwn a'u gwnaeth ni thosturia wrthynt, a'r hwn a'u lluniodd ni thrugarha wrthynt.

12. A'r dydd hwnnw y bydd i'r Arglwydd ddyrnu, o ffrwd yr afon hyd afon yr Aifft: a chwi feibion Israel a gesglir bob yn un ac un.

13. Ac yn y dydd hwnnw yr utgenir ag utgorn mawr; yna y daw y rhai ar ddarfod amdanynt yn nhir Asyria, a'r rhai a wasgarwyd yn nhir yr Aifft, ac a addolant yr Arglwydd yn y mynydd sanctaidd yn Jerwsalem.

Eseia 27