Eseia 26:18-20 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

18. Beichiogasom, gofidiasom, oeddem fel ped esgorem ar wynt; ni wnaethom ymwared ar y ddaear, a phreswylwyr y byd ni syrthiasant.

19. Dy feirw a fyddant byw, fel fy nghorff i yr atgyfodant. Deffrowch a chenwch, breswylwyr y llwch: canys dy wlith sydd fel gwlith llysiau, a'r ddaear a fwrw y meirw allan.

20. Tyred, fy mhobl, dos i'th ystafelloedd, a chae dy ddrysau arnat: llecha megis ennyd bach, hyd onid elo y llid heibio.

Eseia 26