Eseia 26:12-17 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

12. Arglwydd, ti a drefni i ni heddwch: canys ti hefyd a wnaethost ein holl weithredoedd ynom ni.

13. O Arglwydd ein Duw, arglwyddi eraill heb dy law di a arglwyddiaethasant arnom ni; yn unig trwot ti y coffawn dy enw.

14. Meirw ydynt, ni byddant fyw; ymadawsant, ni chyfodant; am hynny y gofwyaist a difethaist hwynt, dinistriaist hefyd bob coffa amdanynt.

15. Ychwanegaist ar y genedl, O Arglwydd, ychwanegaist ar y genedl; ti a ogoneddwyd; ti a'i symudasit ymhell i holl gyrrau y ddaear.

16. Mewn adfyd, Arglwydd, yr ymwelsant รข thi; tywalltasant weddi pan oedd dy gosbedigaeth arnynt.

17. Fel y gofidia ac y gwaedda gwraig feichiog dan ei gwewyr, pan fyddo agos i esgor; felly yr oeddem o'th flaen di, Arglwydd.

Eseia 26