Eseia 24:3-13 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

3. Gan wacáu y gwacéir, a chan ysbeilio yr ysbeilir y wlad; canys yr Arglwydd a lefarodd y gair hwn.

4. Galarodd a diflannodd y ddaear, llesgaodd a dadwinodd y byd, dihoenodd pobl feilchion y ddaear.

5. Y ddaear hefyd a halogwyd dan ei phreswylwyr: canys troseddasant y cyfreithiau, newidiasant y deddfau, diddymasant y cyfamod tragwyddol.

6. Am hynny melltith a ysodd y tir, a'r rhai oedd yn trigo ynddo a anrheithiwyd; am hynny preswylwyr y tir a losgwyd, ac ychydig ddynion a adawyd.

7. Galarodd y gwin, llesgaodd y winwydden, y rhai llawen galon oll a riddfanasant.

8. Darfu llawenydd y tympanau, peidiodd trwst y gorfoleddwyr, darfu hyfrydwch y delyn.

9. Nid yfant win dan ganu; chwerw fydd diod gref i'r rhai a'i hyfant.

10. Drylliwyd y ddinas wagedd; caewyd pob tŷ, fel na ddeler i mewn.

11. Y mae llefain am win yn yr heolydd; tywyllodd pob llawenydd, hyfrydwch y tir a fudodd ymaith.

12. Yn y ddinas y gadawyd anghyfanheddrwydd, ag anrhaith hefyd y dryllir y porth.

13. Oblegid bydd o fewn y tir, yng nghanol y bobloedd, megis ysgydwad olewydden, ac fel grawn lloffa pan ddarffo cynhaeaf y gwin.

Eseia 24