Eseia 23:7-15 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

7. Ai hon yw eich dinas lawen chwi, yr hon y mae ei hynafiaeth er y dyddiau gynt? ei thraed a'i dygant hi i ymdaith i bell.

8. Pwy a gynghorodd hyn yn erbyn Tyrus goronog, yr hon yr ydoedd ei marchnatawyr yn dywysogion, a'r marsiandwyr yn bendefigion y ddaear?

9. Arglwydd y lluoedd a fwriadodd hyn, i ddifwyno balchder pob gogoniant, ac i ddirmygu holl bendefigion y ddaear.

10. Dos trwy dy wlad fel afon, O ferch Tarsis: nid oes nerth mwyach.

11. Estynnodd ei law ar y môr, dychrynodd y teyrnasoedd; gorchmynnodd yr Arglwydd am ddinas y farsiandïaeth, ddinistrio ei chadernid.

12. Ac efe a ddywedodd, Ni chei orfoleddu mwyach, yr orthrymedig forwyn, merch Sidon; cyfod, dos i Chittim; yno chwaith ni bydd i ti lonyddwch.

13. Wele dir y Caldeaid; nid oedd y bobl hyn, nes i Assur ei sylfaenu hi i drigolion yr anialwch: dyrchafasant ei thyrau, cyfodasant ei phalasau; ac efe a'i tynnodd hi i lawr.

14. Llongau Tarsis, udwch; canys anrheithiwyd eich nerth.

15. A'r dydd hwnnw yr anghofir Tyrus ddeng mlynedd a thrigain, megis dyddiau un brenin: ymhen y deng mlynedd a thrigain y cân Tyrus megis putain.

Eseia 23